English

Ein Hanes

Sefydlwyd Tyddyn Môn ym 1988 gan rieni oedolion ag anabledd dysgu a oedd eisiau boddhad fwy gwerthfawr i'w meibion a'u merched.

Ers hynny, mae'r elusen wedi ei lleoli ar fferm Hendy ym Mrynrefail lle mae dros 25 o ddefnyddwyr gwasanaeth yn mynychu bob dydd i ddysgu a datblygu ei sgiliau trwy weithgareddau megis gofal anifeiliaid, garddio, crochenwaith, coginio, cerddoriaeth, crefftau a chynnal a chadw tir cyffredinol i enwi rhai. Maent hefyd yn dysgu sgiliau lletygarwch a gwasanaeth cwsmeriaid yn y Tŷ Crempog newydd sy'n cael ei redeg gan Tyddyn Môn ar y fferm.

Mae Tyddyn Môn hefyd yn gweithio mewn 7 o tai gyda chymorth ar Ynys Môn lle mae defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu cefnogi i fyw bywydau llawn ac annibynnol yn eu cymunedau lleol.

Ers 1988, mae'r defnyddwyr gwasanaeth sy'n dod i’r fferm bob dydd wedi helpu i'w drawsnewid o safle adfeiliedig ac anaddas i mewn i safle ffermio a canolfan hyfforddi llwyddiannus ar gyfer ymwelwyr. Pan gymerodd Tyddyn Môn berchenogaeth yr fferm nid oedd wedi'i ddefnyddio ers yr ail ryfel byd. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, roedd yr elusen wedi'i lleoli allan o hen garafan mewn un o'r caeau gan nad oedd ffenestri a drysau yn y ffermdy ac roedd y waliau'n wyrdd gyda llwydni.

Ail-adeiladwyd y ffermdy gan y staff a’r defnyddwyr gwasanaeth a daeth yn brif ganolfan i'r elusen. Ar hyn o bryd roedd Tyddyn Môn yn dibynnu ar y gymuned leol gan mai dim ond £70 y mis a roddwyd i redeg popeth, felly roedd rhoddion yn hanfodol er mwyn cadw'r elusen yn mynd i roi cefnogaeth i lond llaw o ddefnyddwyr gwasanaeth a fynychodd ar y pryd. Roedd pobl yn y gymuned leol yn hynod hael ac yn rhoi popeth o flychau o hoelion a phren i helpu i ailadeiladu'r tŷ i asyn a hyd yn oed parot.

Ar ôl ychydig o flynyddoedd, dyfarnwyd grant i'r elusen a oedd yn ei alluogi i brynu JCB a chlirio'r fferm a oedd wedi gordyfu a hefyd wnaeth Tyddyn Môn ennill gwobr 'Shell Better Britain' a ddaeth â chyllid allanol a rhoddion gan nifer o gwmniau mawr. Roedd hyn yn caniatau i'r elusen ehangu a darparu cefnogaeth i fwy o ddefnyddwyr gwasanaethau. Mae Tyddyn Môn yn parhau i wneud hyn heddiw, gyda'r elusen nid yn unig yn rhoi cefnogaeth i'r rheini o Ynys Môn ond hefyd o Wynedd ac ar draws Gogledd Cymru a Lloegr.

Roedd Tyddyn Môn hefyd yn un o'r sefydliadau cyntaf i gynnig tai trosiannol ar Ynys Môn fel rhan o ailsefydlu'r rheini o Fryn y Neuadd. Gwnaed hyn yn wreiddiol mewn tai ym Mhorthaethwy a Chaergybi a chawsant eu hail-gofrestru'n yn ddiweddarach i ddarparu gwasanaethau chymorth. Mae'n parhau i ddarparu gwasanaethau byw â chymorth i 245 o ddefnyddwyr gwasanaeth yn y ddau dai hyn yn ogystal â 5 arall ar draws Ynys Môn fel y gallant fyw bywydau hapus ac annibynnol yn eu cymunedau.


Gwyliwch ein fideo 30 mlynedd: