Tyddyn Môn, Brynrefail, Dulas, Amlwch, Anglesey LL70 9PQ
T: 01248 410580      E: info@tyddynmon.co.uk
Beth am aros gyda ni...
Mae gan ein safle carafanau ddadl gref dros honni mai hi yw'r mwyaf dethol yng Ngogledd Cymru!
Dyma ichi wyliau perffaith i'r teulu - aros yn yr unig garafán yn ein tyddyn. O fore gwyn tan nos cewch rwydd hynt i fynd o amgylch y fferm a'i thir fel y mynnoch. Pan fydd yr ymwelwyr yn ffarwelio ar derfyn y dydd byddwch chi'n cael yr holl le i chi'ch hun, ac mae hynny'n cynnwys y traeth godidog sydd ond dau can llath i ffwrdd.

Mae'r garafan yn gartref gwyliau modern sy'n cynnig popeth - yr holl gyfleusterau, 6 gwely, teledu, cawod a chegin lawn. Mae hi ar gael i'w llogi trwy gydol y flwyddyn sy'n golygu ei bod yn ganolfan hollol ddi-str i bawb sy'n dymuno mynd i weld beth a welant ar Ynys Môn.