Tyddyn Môn, Brynrefail, Dulas, Amlwch, Anglesey LL70 9PQ
T: 01248 410580      E: info@tyddynmon.co.uk
Yn Tyddyn Môn cewch dreulio'ch amser fel y mynnoch CHI
Efallai eich bod wedi dod i'n siop fferm i brynu porc ffres o'r fferm neu gynnyrch organig. Neu efallai eich bod am dreulio'r diwrnod cyfan yn gweld beth a welwch ar y fferm a mwynhau ei hatyniadau. Ni waeth beth ydyw, fe gewch groeso cynnes yn Tyddyn Môn.
Dyma rai o'r pethau sydd ar gynnig ichi os dewch chi i dreulio diwrnod yn Tyddyn Môn:

ºMynd i'n siop fferm organig i ddewis eich cinio
ºGweld ein hanifeiliaid (mae gan bob un ohonynt enw a bydd rhywun wrth law i'ch cyflwyno chi iddynt)
ºMynd am dro ar hyd ein llwybr gwaith creadigol
ºClywed stori neu weld perfformiad yn ein hamffitheatr (ar y dyddiau hynny pan nad oes
unrhyw berfformiadau, mae'n lle hyfryd i gael picnic)
ºMwynhau tro ar ein go-certi pedal sy'n mynd ar hyd llwybr gwair pwrpasol
ºCyfle i ymlacio â phaned o de a darn o gacen gartref yn ein caffi
ºArchwilio'r llwybr sy'n arwain o ben y clogwyn i lawr i'r traeth trawiadol 200 metr i ffwrdd
ºGollwng stêm yn ein hanturfa (neu le chwarae'r plantos bach ar gyfer ein hymwelwyr llai)
ºDiflannu i ganol cefn gwlad am awr neu ddwy, neu am y diwrnod cyfan, ar gefn un o'n beiciau
mynydd y gallwch ei logi (bydd gennym helmed a siacedi llachar ar eich cyfer)

Gyda chymaint o weithgareddau ar fynd byddech yn meddwl bod y safle'n lle prysur lle mae'r torfeydd
yn symud o un lle i'r nesaf. Na, nid felly mae hi o gwbl. Mae Tyddyn Môn yn lle di-st?r ac ymlaciol.
Cewch fynd i archwilio wrth eich pwysau ac fel y mynnwch.