Tyddyn Môn, Brynrefail, Dulas, Amlwch, Anglesey LL70 9PQ
T: 01248 410580      E: info@tyddynmon.co.uk
Erbyn hyn mae ein hymwelwyr yn gallu gwneud a gweld cymaint o bethau yn Tyddyn Môn, fel ein bod ni'n anghofio weithiau pam y gwnaethom ni gychwyn arni a pham. Pan fo ein hymwelwyr yn treulio amser yn Tyddyn Môn cânt gyfle i fwynhau diwrnod i'r brenin, sy'n llawn bwrlwm ac amrywiaeth - a hyn i gyd yng nghanol harddwch Ynys Môn. Byddant, ar yr un pryd, yn cefnogi elusen gofrestredig sydd wedi bod yn gweddnewid bywydau pobl (a'r tir) ers 1988.
Cafodd Tyddyn Môn ei sefydlu gan rieni oedolion sydd ag anawsterau dysgu ac oedd â'r weledigaeth i anelu at ddyddiau gwaith mwy adeiladol a buddiol i'w meibion a'u merched. Chewch chi fawr ddim byd mwy adeiladol a buddiol nag ailadeiladu tyddyn a oedd wedi mynd â'i ben iddo, ac yna mynd ati i lunio, datblygu a chynnal atyniad teuluol llwyddiannus i ymwelwyr sydd ar fynd ers dros 2 ddegawd!

Mae Tyddyn Môn yn parhau i ddarparu gofal dydd, hyfforddiant a chymorth i oedolion sydd ag anawsterau dysgu ac mae pob un o'r oedolion hyn yn cyfrannu at waith datblygu a chynnal y fferm a'i hatyniadau. Hyd yn hyn, mae'r tîm wedi llwyddo i wneud hyn:

ºDraenio, ffensio a meithrin y tir
ºAdnewyddu'r adeiladau a oedd yn adfail
ºPlannu mwy na 2,000 o goed!
ºPrynu, anifeiliaid y fferm, eu rhoi dan do a gofalu amdanynt
ºSefydlu siop fferm organig

Bwriad Tyddyn Môn yw sicrhau fod pawb yn mwynhau eu hunain ym mywyd a thasgau
tyddyn sydd wedi ei ddeffro i'w hen waith naturiol. Nid ydym yn cynnig goleuadau llachar,
ffair a ffwndwr, a reidiau cyffrous. Ond os ydych am i'r holl deulu gael rhywbeth i'w weld a'i
wneud yn nhawelwch a llonyddwch fferm hardd ar yr arfordir, yna mae popeth yma ar eich
cyfer yn Tyddyn Môn.