Un peth yw cynnyrch ffres o'r fferm. Peth arall yn hollol yw cyfle i gael eich cyflwyno i'r union iâr a ddodwyodd eich wyau!
Mae fferm Tyddyn Môn yn gwerthu ein cynnyrch organig, tymhorol o safon uchel. Rydym wastad yn fodlon dangos i'r ymwelwyr ble mae eu bwyd wedi cael ei dyfu a byddwn yn eu cyflwyno i anifeiliaid ein fferm. Gallwn ddangos i chi o beth ac ym mhle cychwynnodd ein cynnyrch a phe digon o amser gennych byddem yn hynod fodlon ichi aros gyda ni er mwyn ei wylio'n tyfu!
Tyddyn wrth ei waith yw Tyddyn Môn a gallwn ni ond gwerthu'r hyn sydd yn ei dymor. Felly bydd y cynnyrch yn siop y fferm yn newid trwy gydol y flwyddyn - ar wahanol adegau byddwn yn cadw stoc o wahanol:
ºFfrwythau a llysiau organig
ºWyau buarth
ºSelsig, Porc a Chig Oen ffres o'r fferm
ºPlanhigion