English

Gweithiwch gyda ni

Staff Tymhorol ar gyfer ein Tŷ Crempog

Oriau Amrywiol ar gael. Mae dyddiau a sifftiau ar gael rhwng dyddiau Mawrth a Sadwrn.

Mae Tyddyn Môn yn chwilio am rywun i ymuno â’n tîm yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf yn Tŷ Crempog, ein caffi crempogau prysur. Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn brwdfrydig sy’n gallu cymell ei hun i ymuno â’n tîm ehangol yn ein Tŷ Crempog poblogaidd.

Mae Tŷ Crempog yn darparu profiad gwaith i oedolion gydag anableddau dysgu.Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn y gegin ac yn gweini’r cyhoedd gan roi cefnogaeth i oedolion gydag anableddau dysgu yn y tŷ crempog.

Bydd y prif ddyletswyddau’n cynnwys:

  • Cefnogi oedolion gydag anabledd dysgu, gan eu hannog i ddatblygu eu sgiliau yn Tŷ Crempog.
  • Paratoi a gweini bwyd, gwneud te a choffi.
  • Ymdrin ag arian parod, cyfri arian a chadw cofnodion ariannol o drafodion.
  • Glanhau pob ardal yn y caffi gan sicrhau eu bod yn ddiogel a hylan bob amser.
  • Monitro stoc, gwastraff a dyddiadau ‘defnyddio erbyn’.
  • Ymateb yn brydlon ac yn broffesiynol i unrhyw adborth, sylwadau neu gwynion gan gwsmeriaid.
  • Dilyn a chydymffurfio â’r holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol, yn arbennig ein polisïau Diogelu a gofynion Iechyd a Diogelwch a Hylendid Bwyd.
  • Ymgymryd â dyletswyddau eraill fel sy’n rhesymol ofynnol gan y rheolwr llinell.

I gyflawni’r swydd hon yn llwyddiannus, bydd angen i chi:

  • Allu cyfathrebu â phobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd a gydag ystod eang o alluoedd.
  • Bod yn hynaws ac empathig.
  • Ymrwymo i gyfleoedd cyfartal.
  • Cyflwyno eich hun yn dda.
  • Bod yn hyblyg i weithio ar benwythnosau a rhai gwyliau banc yn ôl y gofyn.
  • Bod yn berson cyfeillgar a chymdeithasol.
  • Gallu gweithio dan bwysau ac at derfynau amser gan weithio’n dda ar liwt eich hun yn ogystal â fel rhan o dîm.
  • Bod yn berson brwdfrydig a gweithgar.

Profiad a sgiliau dymunol:

  • Profiad mewn rôl debyg e.e. caffi, gweini, gwaith bar, gwaith bwyty, arlwyo.
  • Profiad o weithio â phobl gydag anableddau dysgu neu oedolion bregus eraill.
  • Gallu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Trwydded yrru lân.

Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar gyfer y rôl.

Cyfradd fesul awr- Yn cydymffurfio â’r Cyflog Byw Cenedlaethol

I wneud cais anfonwch eich CV at Michelle Owen chelle.tyddynmon@btconnect.com neu ffoniwch 01248 410580 est. 3 am ffurflen gais neu os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Ffôn

01248 410580

Ebost

info@tyddynmon.co.uk

Facebook

tyddynmon

Twitter

tyddynmon